Telerau ac Amodau

Crëwyd 10/12/2008 - 23:18 gan george   Diweddarwyd 10/12/2008 - 23:19 gan george

Mae defnyddio gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

Drwy ymweld â'n gwefan rydych chi fel defnyddiwr ('Chi') yn derbyn ein telerau ac amodau.

Defnyddio gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin

Cynhelir gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin er mwyn i chi’i defnyddio ac edrych arni. Mae cael mynediad i, a defnyddio, gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Maent yn weithredol o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf

Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn dull nad yw'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu’n atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau'r wefan hon.

Mae cyfyngu neu atal o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu beri gofid neu drafferth i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu sarhaus neu ymyrryd ar y llif arferol o ddeialog o fewn y safle hwn.

Fe'ch gwaherddir rhag cyhoeddi neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difenwol, anweddus, sarhaus neu gywilyddus, neu unrhyw ddeunydd sy'n golygu neu sy'n annog ymddygiad yr ystyrir iddo fod yn drosedd, sy’n debygol o achosi atebolrwydd sifil, neu sydd, fel arall, yn torri unrhyw gyfraith.

Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gofyn i ni neu sy'n rhoi cyfarwyddyd i ni ddatgelu enw unrhyw un sy'n cyhoeddi gwybodaeth neu ddeunydd o'r fath ar safle gwe Clwb Nofio Caerfyrddin.

Ymwadiad

Darperir gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin 'fel ag y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad a heb warant o unrhyw fath p'un a'i mynegir neu'i awgrymir, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben arbennig, peidio â thresmasu, cysondeb, diogelwch a chywirdeb

Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn rhydd rhag ymyrraeth neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, ac y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei bod ar gael, yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau

Ni fyddwn yn atebol dros golled neu ddifrod ar unrhyw gyfrif, yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu colli'r gallu i ddefnyddio, data neu elw sy'n deillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin neu sy'n deillio o hynny

Rheolir a dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o dan y telerau ac amodau hyn yn agored i awdurdod unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Cysylltiadau â gwefannau allanol

Bydd cysylltiadau a gynhwysir yng ngwefan Clwb Nofio Caerfyrddin yn arwain at wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig.

Ni ddylid ystyried y broses o restru a chysylltu gwefannau fel ardystiad o unrhyw fath ac ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Diogelu rhag firysau

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd a ddaw o'r wefan hon.

Gallwn adolygu'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg yn ddirybudd. Eich cyfrifoldeb chi yw edrych ar y telerau ac amodau yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau.

Rydych yn derbyn y newid drwy ddefnyddio gwefan Clwb Nofio Caerfyrddin yn barhaus ar ôl i newid gael ei wneud.